Dogfen 1

 

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth nesaf – Medi 2016

 

Argymhelliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o ran cyflwyno i safleoedd anodd eu cyrraedd ddim hwyrach na mis Medi 2016, gan gynnwys:

·         y wybodaeth ddiweddaraf o ran cyflawni 100 megabit yr eiliad ar

·         gyfer 40 y cant o safleoedd;

·         gwybodaeth am ba bryd fydd pobl yn cael gwybod os nad ydynt yn

·         debygol o gael band eang y genhedlaeth nesaf drwy’r contract

·         Cyflymu Cymru;

·         manylion yr opsiynau fforddiadwy sydd ar gael iddynt;

·         nifer y safleoedd sydd wedi’u pasio; a’r

·         wybodaeth ddiweddaraf ar yr argymhellion yn adroddiad

 

Diweddariad

 

Mae BT wedi rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru bod cysylltiad 100Mbs ar gael i bob adeilad sydd wedi'i gysylltu â chyfnewidfeydd byw yng Nghymru drwy dechnoleg ffeibr ar alw (fibre on demand). Yn ogystal, rydym yn rhagweld y bydd tuag 85,000 o adeiladau yn cael budd o dechnoleg cysylltiad ffeibr i'r adeilad o ganlyniad i'r rhaglen.

Yn ystod yr hydref mae gwaith yn cael ei wneud i nodi'r adeiladau hynny sy'n annhebygol o dderbyn band eang cyflym iawn drwy Cyflymu Cymru neu drwy wasanaeth masnachol.

 

Ar 9 Medi cyhoeddodd Llywodraeth  Cymru ymgynghoriad cyhoeddus i ymgysylltu'n bennaf â'r diwydiant telathrebu er mwyn deall eu cynlluniau cyflwyno.

 

Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i dargedu adeiladau sydd heb eu gwasanaethu i ymestyn prosiect Cyflymu Cymru ymhellach gan ddefnyddio £12.9 miliwn o gyllid cyfran enillion cyflymach gan BT.  Y nod fydd sicrhau bod modd defnyddio'r cyllid hwn i ddarparu mynediad band eang cyflym iawn cyn diwedd cyfnod gweithredu'r contract presennol ym mis Rhagfyr 2017.  Yna bydd angen datblygu gwaith pellach i ystyried opsiynau o 2018 ymlaen.

 

Mae Cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cyllido amrywiaeth o dechnolegau bang eang cyflym iawn eraill gan gynnwys cysylltedd lloeren a diwifr.  Mae manylion y cynllun ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Ar ddiwedd mis Mai 2016, mae 596,591 o adeiladau wedi'u pasio a'u cyflymder wedi'i brofi a'i ddilysu.

 

Ceir diweddariad am yr argymhellion a gynhwysir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn atodiad 1.

 

Argymhelliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i’r Pwyllgor, am y gwaith i wella cyfathrebu a marchnata ynghylch manteision mynediad at fand eang cyflym iawn, heb fod yn hwyrach na mis Medi 2016.

 

Diweddariad

 

Mae ymgyrch marchnata a chyfathrebu newydd o dan arweiniad Llywodraeth Cymru wedi'i chytuno ar gyfer 2016-19. Ymgyrch gwasanaeth cyhoeddus yw hon i hyrwyddo'r defnydd o fand eang, dangos sut y gall helpu i wella bywydau pobl ac annog y defnydd o fand eang cyflym iawn.  Bydd yn cynnwys gweithgarwch amlhaenog ym meysydd marchnata, hysbysebu, digwyddiadau, cyfryngau, gwefan a chyfryngau cymdeithasol. Er bod gan y gweithgarwch gyrhaeddiad cenedlaethol, bydd y gweithgarwch yn cael ei gyflwyno'n lleol. Bydd astudiaethau achos go iawn yn cael eu cynnwys a bydd cyfres o ddigwyddiadau lleol i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cyhoedd.

 

Rhoddir gwybodaeth a 'phecyn cymorth' i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol dylanwadol eraill i'w galluogi hwythau hefyd i hyrwyddo manteision band eang cyflym iawn.

 

Bydd y gweithgarwch yn cael ei lansio ddechrau mis Hydref mewn dau ranbarth awdurdod lleol. Bydd y gweithgarwch yn cael ei werthuso'n barhaus gydag ymchwil annibynnol yn cael ei chomisiynu i olrhain cynnydd a llywio gwelliannau.

 

Mae gwefan Llywodraeth Cymru bellach yn cynnwys gwybodaeth am gyflwyno gan gynnwys chwiliwr rhyngweithiol sy'n galluogi trigolion a busnesau i chwilio am ba bryd maent yn debygol o gael cysylltiad ffeibr i’r cabinet Cyflymu Cymru. BT sy'n darparu'r wybodaeth am gyflwyno sydd ar y wefan.  Mae BT wedi rhoi sicrwydd i ni y bydd gwybodaeth ar gael ym mis Hydref i ddefnyddwyr hefyd ei chwilio i gael gwybod pryd y bydd cysylltiad ffeibr i'r adeilad ar gael os dyna'r ateb band eang sy'n cael ei gyflwyno ar gyfer eu hadeiladau.

 

 

 

 

 


 

Atodiad 1

 

Diweddariad am argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf

 

Argymhelliad 1

 

Gwella gwybodaeth am gyflwyno gwasanaeth band eang y genhedlaeth nesaf yn lleol

 

Nid yw rhai awdurdodau lleol, busnesau a thrigolion wedi bod yn fodlon â’r wybodaeth sydd ar gael am gyflwyno gwasanaeth Cyflymu Cymru. Mae contract Cyflymu Cymru yn cynnwys £1.7 miliwn ar gyfer gweithgareddau marchnata a chyhoeddusrwydd, a adolygwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2014, gan arwain at fwy o ffocws ar gartrefi a gwelliannau i wefan Cyflymu Cymru.

 

·         Fel rhan o’i chynllun marchnata, dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu ei gweithgareddau marchnata, asesu a monitro ymwybyddiaeth o fand eang y genhedlaeth nesaf a nodi a yw busnesau a thrigolion yn fodlon â lefel y wybodaeth a gânt am statws cyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yn eu hadeiladau.

 

Ymateb:

 

Daeth contract BT i farchnata Cyflymu Cymru i ben ar 30 Mehefin 2016. O 1 Gorffennaf 2016 Llywodraeth Cymru sydd bellach yn arwain ar gyfathrebu a marchnata’r gwaith o gyflwyno Cyflymu Cymru.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                   

 

Yn dilyn gwerthusiad o gyfathrebu ac ymchwil i gynulleidfaoedd, mae ymgyrch farchnata a chyfathrebu newydd Llywodraeth Cymru wedi'i chytuno gan Weinidogion ar gyfer 2016-19. Ymgyrch gwasanaeth cyhoeddus yw hon i hyrwyddo'r defnydd o fand eang, dangos sut y gall helpu i wella bywydau pobl ac annog y defnydd o fand eang cyflym iawn.  Bydd hyn yn cynnwys gweithgarwch amlhaenog ym meysydd marchnata, hysbysebu, digwyddiadau, cyfryngau, gwefan a chyfryngau cymdeithasol. Er bod gan y gweithgarwch gyrhaeddiad cenedlaethol, bydd y gweithgarwch yn cael ei gyflwyno'n lleol. Bydd astudiaethau achos bywyd go iawn yn cael eu cynnwys a bydd cyfres o ddigwyddiadau lleol i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cyhoedd. Rhoddir 'pecyn cymorth' a gwybodaeth i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol dylanwadol eraill i'w galluogi hwythau hefyd i hyrwyddo manteision band eang cyflym iawn. Bydd y gweithgarwch yn cael ei lansio ddechrau mis Hydref mewn dau ranbarth awdurdod lleol. Bydd y gweithgarwch yn cael ei werthuso'n barhaus gydag ymchwil annibynnol yn cael ei chomisiynu i olrhain cynnydd a llywio gwelliannau.

 

Mae gwefan Llywodraeth Cymru bellach yn cynnwys yr holl wybodaeth gyflwyno sy'n ofynnol. Mae chwiliwr rhyngweithiol yn galluogi trigolion a busnesau i chwilio am pryd y maent yn debygol o gael Cyflymu Cymru drwy Gysylltiad Ffeibr i’r Cabinet. Mae BT wedi rhoi sicrwydd i ni y bydd gwybodaeth ar gael ym mis Hydref i ddefnyddwyr hefyd ei chwilio i gael gwybod pryd y bydd cysylltiad ffeibr i’r adeilad ar gael os dyna'r ateb band eang sy'n cael ei gyflwyno ar gyfer eu hadeiladau. Mae'r chwiliwr yn dibynnu ar gael gwybodaeth gywir gan BT. Mae cynnwys y wefan wedi'i wella gyda chwestiynau cyffredin a gwybodaeth ddefnyddiol am fand eang. Mae taflenni ffeithiau ar ddatrys problemau a chwalu’r mythau wrthi'n cael eu datblygu.                           

 

Mae gwybodaeth i fusnesau'n cael ei darparu drwy’r prosiect manteisio ar fand eang cyflym iawn ar gyfer busnesau.  Prif nodweddion y rhaglen yw:

 

o   Cymorth a chyngor busnes uniongyrchol drwy Busnes Cymru.  Gweithdai, clinigau, deunydd ar-lein a sesiynau un i un yn lleol ar fand eang cyflym iawn i fusnesau

o   Ymchwil a gwybodaeth, gan gynnwys olrhain a mabwysiadu a manteisio ar fand eang cyflym iawn gan fusnesau a rhoi dealltwriaeth o dechnolegau sy'n dod i'r amlwg i sicrhau bod cyfleoedd newydd yn cael eu cynnwys

o   Hyfforddiant ac achredu i gynghorwyr busnes sy'n rhoi cymorth ar lawr gwlad. 

o   Eiriolwyr ar gyfer pob awdurdod lleol a fydd yn helpu i arwain ymgysylltu â'u hawdurdod a'u cymuned fusnes leol. 

o   Panel cynghori strategol i gynorthwyo gyda chyflwyno’r gwasanaeth sy'n cynnwys arbenigwyr o ddarparwyr technoleg, cyrff y diwydiant a'r sector cyhoeddus.

 

Argymhelliad 2

 

Sicrhau bod targedau contractiol yn cael eu cyrraedd

 

Er mwyn cyrraedd targedau contractiol prosiect Cyflymu Cymru, mae’n rhaid i 40 y cant o adeiladau yn yr ardal ymyrryd allu derbyn gwasanaeth ar gyflymder o 100 Mbps neu fwy erbyn diwedd 2016. Fodd bynnag, dim ond 325 o adeiladau a oedd yn gallu cael mynediad i fand eang y genhedlaeth nesaf ar gyflymder lawrlwytho o 100 Mbps erbyn diwedd Rhagfyr 2014.

 

·         Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan BT gynlluniau priodol, manwl a chadarn ynglŷn â sut y bydd yn cyrraedd y targed o ddarparu gwasanaeth ar gyflymder o 100 Mbps i 40 y cant o adeiladau.

 

Ymateb:

 

Mae BT wedi cynghori y bydd cysylltiad 100Mbs ar gael i bob adeilad sydd wedi'i gysylltu â chyfnewidfeydd byw Cyflymu Cymru yng Nghymru drwy dechnoleg ffeibr ar alw. Yn ogystal, rydym yn rhagweld y bydd tuag 85,000 o adeiladau yn cael budd o dechnoleg cysylltiad ffeibr i'r adeilad o ganlyniad i'r rhaglen.

Argymhelliad 3

 

Monitro a chefnogi’r defnydd o fand eang y genhedlaeth nesaf

 

Ychydig iawn o werth sydd mewn darparu seilwaith ar gyfer band eang y genhedlaeth nesaf oni bai bod busnesau ac aelwydydd yn defnyddio’r gwasanaeth. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi pennu unrhyw dargedau eto ar gyfer defnyddio band eang y genhedlaeth nesaf mewn adeiladau busnes neu ddomestig.

 

·        Dylai Llywodraeth Cymru:

o   bennu targed(au) i ymgyrraedd ato/atynt ynglŷn â defnyddio gwasanaeth band eang y genhedlaeth nesaf er mwyn canolbwyntio ar ymdrechion i hyrwyddo defnydd;

o   casglu gwybodaeth i ddangos sut mae busnesau a’r cyhoedd yn defnyddio band eang y genhedlaeth nesaf;

o   gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau bod mesurau priodol ar waith i ganiatáu meincnodi â gwledydd eraill.

 

Ymateb:

 

Ym mis Gorffennaf 2015, mewn datganiad llafar cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ei bod am weld o leiaf hanner y rhai sy'n gallu cysylltu â band eang cyflym iawn yn gwneud hynny.  Mae ymchwil annibynnol bellach a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru yn cadarnhau 50 y cant fel targed rhesymol o ran defnydd.

 

Ofcom yw'r brif ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth am y defnydd o fand eang a band eang y genhedlaeth nesaf a hefyd meincnodi â gwledydd eraill. Fodd bynnag, mae rhagor o ymchwil annibynnol yn cael ei chomisiynu yn ôl y gofyn, er enghraifft, yn ymwneud â marchnata a chyfathrebu ac ar gyfer y prosiect manteisio ar fand eang cyflym iawn ar gyfer busnesau.

 

Argymhelliad 4

 

Gwella effeithiolrwydd cynllun Allwedd Band Eang Cymru

 

Mae Allwedd Band Eang Cymru yn darparu grantiau hyd at £1,000 i osod gwasanaeth band eang cyflymach mewn ardaloedd sydd â chyflymder band eang llai na dau Mbps. Fodd bynnag, hyd at fis Chwefror 2015, roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer 340 o osodiadau (paragraff 2.19).

 

·        Dylai Llywodraeth Cymru adolygu cynllun Allwedd Band Eang Cymru, gan gynnwys ei gwybodaeth am y cynllun, er mwyn asesu a yw’n gweithio yn unol â’r bwriad ac a yw’r cynllun yn parhau i fod yn fuddiol. 

 

Ymateb:

 

Yn dilyn asesiad o sut y gallai'r cynllun gefnogi’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn yn well, ym mis Rhagfyr 2015 cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ymrwymiad dwy flynedd i ymestyn cynllun Allwedd Band Eang Cymru i'r holl gartrefi a busnesau ledled Cymru nad ydynt yn gallu derbyn cysylltiadau cyflym iawn ar hyn o bryd. O dan y cynllun blaenorol dim ond adeiladau a oedd yn cael llai na 2Mbps oedd yn gymwys. Dechreuodd y cynllun newydd ym mis Ionawr 2016.

 

Mae Allwedd Band Eang Cymru bellach yn cyllido (neu'n cyllido'n rhannol) y costau gosod cysylltiadau band eang newydd i gartrefi a busnesau yng Nghymru sy'n cyflawni newid sylweddol o ran cyflymder lawrlwytho. Ceir dwy lefel o gyllid yn dibynnu ar y cyflymder sy'n ofynnol, £400 ar gyfer cyflymder lawrlwytho rhwng 10 ac 20 Mbps ac £800 ar gyfer cyflymder lawrlwytho o 30Mbbps ac uwch. Mae'r cynllun hwn yn niwtral o ran technoleg gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg yn cynnwys technoleg lloeren, di-wifr a 4G i ddarparu gwasanaeth cyflym iawn.

 

Argymhelliad 5

 

Gwella manteision llawn y buddsoddiad cyhoeddus

 

Hyd at fis Awst 2014, roedd yna ddiffyg eglurder ynglŷn â’r cyfrifoldeb dros gyflawni a rheoli manteision band eang y genhedlaeth nesaf, ond mae Llywodraeth Cymru bellach yn datblygu gweithgarwch datblygu manteision. Mae’r gweithgarwch hwn yn cynnwys prosiect cenedlaethol ar gyfer datblygu gan fusnesau a chynllun ar gyfer datblygu yn y sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw weithgareddau datblygu manteision penodol ar y gweill ar gyfer cartrefi (paragraffau 2.55 i 2.68).

 

·        Yn ogystal â’r gweithgarwch presennol, dylai Llywodraeth Cymru:

o   ddatblygu strategaeth rheoli manteision neu gynllunio ar gyfer manteision ehangach prosiect Cyflymu Cymru a’i hymyriadau band eang y genhedlaeth nesaf eraill ar gyfer cartrefi, busnesau a’r sector cyhoeddus;

o   gwneud darpariaeth yn y strategaeth neu’r cynllun ar gyfer adolygiad  er mwyn asesu’r manteision uniongyrchol ac anuniongyrchol a ragwelir ar ddiwedd cyfnod gweithredu Cyflymu Cymru (megis Adolygiad Gateway 5);  a

o   chynnal yr adolygiad yn rheolaidd ar ôl gweithredu’r cynllun.

 

Ymateb:

 

Mae cynllun rheoli manteision yn ei le bellach ar draws ymyriadau seilwaith digidol Llywodraeth Cymru gan gynnwys Cyflymu Cymru.  Mae gwybodaeth am fanteision yn cael ei choladu fel mater o drefn a bydd yn ffurfio rhan o unrhyw adolygiad o'r prosiect naill ai yn ystod y cyfnod gweithredu neu ar ôl hynny.

 

Argymhellion 6 a 7

 

Dysgu’r gwersi o sut mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r broses o gynllunio a chaffael contract Cyflymu Cymru

 

O ganlyniad i’w prosesau adolygu mewnol ei hun, dysgodd Llywodraeth Cymru nifer o wersi yn ystod cyfnod cynllunio a chaffael prosiect Cyflymu Cymru. Roedd y materion allweddol a nododd Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn bennaf â threfniadau rheoli’r prosiect, gan gynnwys trosiant staff allweddol y prosiect. Yn ogystal, mae ein gwaith ein hunain wedi nodi rhai gwendidau yn y gwaith rheoli manteision, ac i ba raddau roedd y broses arfarnu dewisiadau wedi ystyried fforddiadwyedd.

 

·        Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o’i hadolygiad mewnol ei hun a gwersi eraill o’r adroddiad hwn yn cael eu hadlewyrchu yn ei chanllawiau ei hun ar reoli rhaglenni a phrosiectau.

 

O gymharu â phrosiectau band eang y genhedlaeth nesaf eraill sy’n derbyn cyllid cyhoeddus yn y DU, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi trafod cytundeb â BT sy’n cynnwys nifer o gamau diogelu ychwanegol ar gyfer buddsoddiad gan y sector cyhoeddus

 

·        Dylai Llywodraeth Cymru rannu’r gwersi a ddysgwyd o drafod y cytundeb â BT gydag adrannau Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus yn ehangach. 

 

Ymateb:

 

Mae'r gwersi a ddysgwyd yn cael eu nodi fel rhan o'r prosesau adolygu ‘gateway’ drwy gydol oes prosiectau mawr gan gynnwys Cyflymu Cymru, er enghraifft ar gyfer yr UE fel rhan o'i phrosesau cwblhau prosiectau. Yn ogystal, bydd adolygiad pellach o wersi a ddysgwyd yn cael ei gynnal tuag at ddiwedd y prosiect ac yna bydd yn cael ei rannu ar draws y disgyblaethau proffesiynol perthnasol yn Llywodraeth Cymru.

 

Bydd canfyddiadau o'r adolygiadau hyn yn cael eu bwydo i mewn i'r fframwaith gwersi a ddysgwyd corfforaethol ar gyfer rheoli rhaglenni a phrosiectau. Bydd swyddogion yn gweithio gyda Gwerth Cymru i sicrhau bod y gwersi caffael yn cael eu nodi a'u lledaenu ar draws y proffesiwn caffael yn Llywodraeth  Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu'r gwersi â gweithwyr proffesiynol contract a chaffael o bob rhan o Lywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach i godi ymwybyddiaeth o'r dull a fabwysiadwyd o dan brosiect Cyflymu Cymru.

 

Drwy raglen Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru mae sesiynau hyfforddi eisoes wedi'u cyflwyno ar sgiliau negodi masnachol i weithwyr proffesiynol caffael yn ystod mis Mawrth a mis Mehefin 2016. Bydd y sesiynau hyn yn parhau fel rhan o'r gyfres o hyfforddiant masnachol parhaus a fydd yn cael ei chyflwyno yn hydref 2016 fel rhan o weithgarwch hyfforddi arferol.

Bydd modiwl e-ddysgu rheoli contract yn ategu'r Pecyn Cymorth Rheoli Contractau a bydd yn hyfforddiant gorfodol "hanfodol" ar gyfer yr holl gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gweithgarwch rheoli contract o fis Medi 2016 ymlaen. Bydd hyn yn cael ei ategu gan opsiwn hyfforddi Rheoli Cyflenwyr i'r rhai sy'n ymwneud â chontractau mwy o faint a mwy strategol gyda chyflenwyr a fydd ar gael o fis Hydref 2016. Bydd modiwlau ychwanegol ar gyfer rheolwyr contract yn cwmpasu Rheoli Gwerth am Arian, Rheoli Categori (lle y bo'n gymwys), Awgrymiadau a Chyngor Cyfreithiol ar gyfer Gweithio gyda Chyflenwyr ac e-ddysgu generig ar ymwybyddiaeth o gaffael a dod o hyd i gyflenwyr.

Bydd angen i bawb a chanddynt ddirprwyaethau i brynu (gan gynnwys i ddiwygio contractau) o dan Bolisi Dirprwyaethau newydd Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd o dan y llif gwaith, ymgymryd â hyfforddiant pan fydd y Polisi'n cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn 2016.